Ein nod yw gwella eich annibyniaeth drwy ddarparu cymorth neu gefnogaeth pryd bynnag y bydd arnoch eu hangen.

Mae'r safonau rydym yn eu pennu i ni ein hunain yn uchel iawn ac yn cael eu cadarnhau gan ein hachrediad i gyrff allanol, yn cynnwys y Gymdeithas Gwasanaethau Tele-ofal (TSA). Rydym yn gweithio tuag at gydymffurfio â Safonau Gofal Iechyd Cymru a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae ein holl ymgynghorwyr llesiant wedi bod ar raglen hyfforddiant drwyadl wedi'i seilio ar y sgiliau roedd eu heisiau ar ein cwsmeriaid, ac mae hyn yn cynnwys bod yr holl staff yn "Gyfeillion Dementia”. Roeddem yn falch o gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwasanaeth Cyhoeddus y Guardian yn 2017 ar gyfer ein Strategaeth Hyfforddiant. Ar hyn o bryd rydym yn anelu tuag at gael ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wedi ei achredu o dan Fframwaith Sicrhau Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru. Cefnogir ein tîm o ymgynghorwyr llesiant hyfforddedig ac ymroddedig gan weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol cofrestredig.

Rydym yn darparu gwasanaethau amlieithog i unigolion ar draws y DU. Rydym yn cynnig ystod amrywiol o wasanaethau i unigolion preifat, Awdurdodau Lleol, Prifysgolion, y sector addysg, sefydliadau'r sectorau preifat a chyhoeddus, busnesau masnachol a Llywodraeth.

Mae ein llwyfan monitro a seilwaith yn defnyddio technoleg arloesol i gefnogi ystod o atebion presennol a dyfodolaidd i anghenion gofal a chymorth, yn cynnwys Tele-ofal, Tele-iechyd a Thele-feddyginiaeth.

Rydym yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth dwyieithog 24/7 i unigolion a sefydliadau sy'n hyrwyddo ac yn cynnal llesiant ac annibyniaeth yn y cartref.


Mae gennym ystod gynhwysfawr o wasanaethau i helpu pobl i gadw a gwella annibyniaeth (cliciwch ar y gwasanaeth i ddarllen mwy)

Tawelwch meddwl drwy wasgu botwm

Ein Gwasanaeth Larwm Gwddf (a elwir weithiau'n llinell gofal neu'n llinell gymorth) yw ein gwasanaeth larwm personol mwyaf poblogaidd, a hwn yw'r man gorau i ddechrau yn ôl pob tebyg. Pan gaiff y larwm gwddf, sydd wedi'i gysylltu â llinell ffôn, ei actifadu mewn argyfwng, mae'n rhoi gwybod i aelod o'n tîm monitro 24/7. Mae hwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag un o'n hymgynghorwyr llesiant hyfforddedig, a fydd yn eich helpu drwy asesu'r sefyllfa a chymryd camau priodol, megis cysylltu â pherthynas, neu'r gwasanaethau brys. Bydd ein hymgynghorwyr llesiant bob amser yn aros ar y llinell hyd nes bod cymorth wedi'i drefnu.

 

Ychwanegiad newydd at y system hon yw'r fersiwn symudol, a phan gaiff ei hactifadu mewn argyfwng mae'n rhoi gwybod i'n tîm monitro ac yn nodi eich lleoliad, ble bynnag ydych yn y wlad.

Monitro 24/7

Rydym yn darparu gwasanaeth monitro sy'n gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Os yw larwm personol neu synhwyrydd cysylltiedig yn cael ei actifadu, mae galwad yn cael ei gwneud ar unwaith i'n Canolfan Fonitro 24 awr lle caiff ei hateb gan ymgynghorydd llesiant hyfforddedig.

Pan fydd angen help llaw fach arnoch

Pan fyddwch yn cael ein gwasanaeth larwm gwddf, rydych yn gwybod eich bod mewn dwylo diogel a gallwch ein cyrraedd drwy wasgu botwm 24/7. Efallai y gwelwch chi fod angen cymorth ychwanegol arnoch chi megis synhwyrydd mwg, llifogydd, nwy, carbon monocsid neu eithafion tymheredd yn eich cartref. Gall y synwyryddion hyn ein rhybuddio ni'n awtomatig, yn ogystal â chi. Er tawelwch meddwl, gall synhwyrydd synhwyro os bydd rhywun yn codi o'r gwely neu'r gadair pan nad yw'n ddiogel o bosibl iddynt wneud hynny ar eu pennau eu hunain. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes rhywun yn colli ei gof. Ceir llawer o 'rybuddion' defnyddiol eraill, er enghraifft, synhwyro codwm, rheoli meddyginiaethau neu fotymau panig/galwr ffug.

Cadw mewn cysylltiad

Rydym hefyd yn cynnig galwadau llesiant dyddiol i sicrhau eich bod yn iawn, i'ch atgoffa i gymryd eich meddyginiaeth neu i gynnig tawelwch meddwl i ofalwyr a'r teulu. Drwy wasgu'r larwm gwddf bob dydd, gallwch roi gwybod i'r ganolfan fonitro eich bod chi'n iawn. Os nad ydych yn actifadu galwad erbyn amser penodol a drefnwyd, bydd Ymgynghorydd yn eich ffonio i wneud yn siŵr eich bod yn iawn. Os byddwch yn methu ag ateb yr alwad, bydd yr Ymgynghorydd yn dilyn protocolau penodol i drefnu cymorth. Mae'r gwasanaeth hwn yn ffordd ddiffwdan o roi tawelwch meddwl i bobl. Mae amrywiaeth o wasanaethau gwahanol i chi ddewis o'u plith, ac maent oll yn ategu ein gwasanaethau monitro mewn argyfwng.

Cymorth Ychwanegol

Fel gofalwr, rydym yn sylweddoli pa mor anodd a heriol y gall y rôl hon fod ar adegau, ac mae ffyrdd y gallwn helpu o bosibl. Rydym yn cynnig atebion sy'n gweithio'r tu fewn i'r cartref a'r tu allan i'r cartref, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg brofedig ac anymwthiol. Mae ein gwasanaeth cerdyn Gofalwr er enghraifft yn rhoi tawelwch meddwl y byddwn ni, mewn argyfwng, yn gweithredu eich trefniadau wrth gefn cytunedig, fel bod y person rydych yn gofalu amdano'n cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arno pan fyddwch chi'n methu gwneud hynny.

Ein larwm Llinell Gymorth yw'r hwb cyfathrebu gorau posibl i gynorthwyo gofalwyr. Gellir cysylltu'r ddyfais hon â larwm gwddf y gall eich perthynas neu ffrind ei wisgo o amgylch ei wddf neu ei arddwrn, gan ganiatáu i alwadau lle nad oes angen defnyddio dwylo gael eu gwneud i'n canolfan fonitro frys 24 awr. Os bydd angen gofal brys pan nad ydych ar hyd lle, gall y gwisgwr fod yn dawel ei feddwl fod help wrth law o hyd.

I gael cymorth i greu pecyn wedi'i addasu ar gyfer eich anghenion, ffoniwch ni ar 0300 3332222

Beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol

Rydym yn arbenigwyr proffesiynol mewn technoleg sy’n ymwneud â gofal a chymorth, ac rydym yn eich helpu i gynyddu annibyniaeth ac ansawdd bywyd drwy ddarparu gwasanaethau dwyieithog a dibynadwy o ansawdd uchel. Rydym yn eiddo i'r Awdurdod Lleol ac yn cael ein gweinyddu ganddo, sy’n golygu bod gennym lawer o brofiad yn y sector cyhoeddus ac yn deall pwysigrwydd yr holl werthoedd cysylltiedig, gan gynnwys ansawdd ac ymddiriedaeth. Gwneud y peth gorau i chi sydd wrth galon yr hyn a wnawn, gyda'r nod o helpu chi i wella eich annibyniaeth. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a gweithwyr y GIG, ac yn meddu ar wybodaeth arbenigol am ddatrysiadau technoleg ac atebion byw. Rydym yn mynd ati i greu atebion pwrpasol a hyblyg sy’n seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth mwyaf priodol i ddiwallu eich anghenion. Rydym wedi ymgorffori ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n profiad ym mhob agwedd ar ofal cymdeithasol, ac mae gennym fynediad at wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol eraill hefyd. Os nad oes gennym yr ateb, byddwn yn gwybod ble i ddod o hyd iddo. 

Mae ein staff yn brofiadol, wedi'u hyfforddi’n dda ac yn gymwys i ddelio gyda phob agwedd ar ein gwasanaethau. Mae'r tîm yn cael ei mentora gan ac yn gweithio ochr yn ochr â grŵp o weithwyr proffesiynol yn y meysydd Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio Ardal a Therapi Galwedigaethol. O ganlyniad, rydym yn gallu helpu ac arwain y cyhoedd a chynnig cymorth a chyngor ar faterion megis technoleg, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein gwasanaethau ar gael i bobl ledled y DU ac yn cynnwys gwasanaethau asesu, gosod a chymorth technegol pwrpasol. Rydym ar flaen y gad o ran technolegau newydd ac yn defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau Cymraeg 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. 

Sut y gallwn eich helpu chi

Mae gan Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) y potensial i drawsnewid y ffordd rydych chi'n rheoli eich iechyd a'ch llesiant eich hun, gan ganiatáu i chi wneud hyn yn y ffordd sy’n gweithio orau i chi. 

Gall ein hatebion pwrpasol helpu pobl sydd angen cymorth gyda phroblemau iechyd, cefnogi gofalwyr sydd angen help wrth ofalu am eraill, a darparu teclynnau fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd a thawelwch meddwl i ddefnyddwyr. 

Mae gyda ni ystafell arddangos "stryd fawr" sy’n cynnwys y datblygiadau diweddaraf ym maes gofal trwy gymorth technoleg, ac sydd hefyd yn cael ei defnyddio fel cyfleuster hyfforddi gan aelodau'r cyhoedd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.