Ein nod yw gwella eich annibyniaeth drwy ddarparu cymorth neu gefnogaeth pryd bynnag y bydd arnoch eu hangen.

Rydym yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol dan berchenogaeth lwyr Cyngor Sir Caerfyrddin. Cawsom ein sefydlu ym Mehefin 2018 ac roedd hynny'n cynnwys trosglwyddo gwasanaeth Llinell Gofal y Cyngor, a oedd wedi bod ar waith ers dros 30 mlynedd, i'r Cwmni.

Rydym yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y cyngor gorau posibl ynghylch sut y gall y dechnoleg ddiweddaraf, boed yn y cartref neu'r tu hwnt i'r cartref, wella eu hannibyniaeth. Drwy sicrhau'n gyson ein bod yn cynnig y dechnoleg ddiweddaraf, a thrwy weithio gyda phartneriaid a grwpiau yn y diwydiant, gallwn ofalu bod gennym ystod eang o gyfarpar, gan ein galluogi ni i ddatblygu atebion pwrpasol i'n cwsmeriaid a all gefnogi a chynnal annibyniaeth ar gyfer pob math o anghenion.

Rydym yn ymfalchïo bod ein cwsmeriaid, beth bynnag eu hoedran, wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn sicrhau bod ein hymgynghorwyr llesiant ymhlith y goreuon sydd wedi cael hyfforddiant yn y diwydiant. Gallwn addasu i ddiwallu anghenion pobl o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Mae'n fwy na busnes i ni; mae'n ddyhead o'r galon i wneud y peth iawn.

 

Ein Hegwyddorion

  • Gwneud yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn gan ystyried pobl arwyddocaol eraill
  • Deall anghenion ein cwsmeriaid ac ychwanegu gwerth
  • Sicrhau tegwch i bawb o ran canlyniadau a chyfleoedd
  • Gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf
  • Trin pawb ag urddas a pharch
  • Cyfathrebu'n effeithiol
  • Gweithio'n broffesiynol o fewn protocolau clir
  • Herio a gwella ein gwasanaeth, ar sail tystiolaeth
  • Deall deddfwriaeth a chydymffurfio â rhwymedigaethau contractiol
  • Ymddiried yn ein gilydd a chefnogi ein gilydd
  • Rhannwch wybodaeth a phrofiad a dysgwch wrth eich gilydd