Ar fy nghyfer i

Rydym yma i'ch helpu i fwynhau eich bywyd hyd at yr eithaf. Gall hyn fod yn eich cartref neu allan ar hyd lle, pa ffordd bynnag yr ydych am fyw eich bywyd. Gallwn roi sicrwydd ichi, os bydd angen cymorth arnoch, y bydd ein tîm o arbenigwyr yno i'ch cynorthwyo 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.


Drwy gynnig amrywiaeth o gynnyrch gofal trwy gymorth technoleg, yr ydym yn ei hadolygu'n gyson ac yn ychwanegu ati. Yn ogystal â mynediad i'n hymgynghorwyr llesiant arbenigol 24/7 a gwasanaeth pwrpasol wedi'i lunio i ddiwallu eich anghenion unigol, gallwch ddibynnu arnom ni i'ch helpu i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref neu pan fyddwch ar hyd lle.

Mae atebion technoleg gynnil megis larymau a wisgir ar yr arddwrn neu ddyfeisiau symudol bychain. A all ffitio i mewn i'ch poced, yn gallu sicrhau, pan fyddwch yn galw am gymorth, ein bod ni neu eich enw cyswllt dewisedig yn gallu ymateb i'ch galwad yn gyflym.

Mae ein Hymgynghorwyr Llesiant Delta tra hyfforddedig, arbenigol yn gallu rhoi i chi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gael yr ateb pwrpasol gorau sy'n diwallu eich anghenion a'ch ffordd o fyw.


I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0300 333 2222

Cerdyn argyfwng: rwy'n ofalwr

Mae'r Cerdyn Argyfwng: Rwy'n Ofalwr yn wasanaeth am ddim i Ofalwyr pobl sy'n byw yn y rhanbarth.

Mae gofalwyr yn cario cerdyn 'maint pwrs neu waled', sy'n cynnwys rhif adnabod unigryw a rhif ymateb mewn argyfwng. Mae'r cerdyn yn rhoi gwybod i eraill fod y deiliad yn gofalu am rywun gartref nad yw'n gallu ymdopi heb gymorth. Os bydd y Gofalwr mewn damwain/argyfwng neu'n cael ei gymryd yn ddifrifol sâl, bydd pobl eraill a'r gwasanaethau brys yn gwybod bod angen cymorth ar y person maent yn gofalu amdano.

Sut mae’n gweithio?

Bydd gofalwyr yn llenwi ffurflen gofrestru gan roi manylion am yr un y mae'n gofalu amdano/amdani, ynghyd â manylion cyswllt un neu ddau a enwebwyd a allai mewn argyfwng gamu i'r bwlch yn lle'r gofalwr. Anfonir y ffurflen wedi'i chwblhau atom i'w phrosesu ac mae'r Gofalwr yn cael Cerdyn Argyfwng:

Rwy'n Ofalwr sydd â rhif adnabod unigryw.

Os bydd rhywun yn ffonio'r rhif argyfwng ar y cerdyn, bydd hyn yn rhoi gwybod i'n Hymgynghorwyr Llesiant am ddamwain neu argyfwng. Byddwn yn galw ar y person(au) enwebedig i roi trefniadau wrth gefn ar waith. Os nad oes unrhyw berson i'w enwebu mewn argyfwng, byddwn yn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud trefniadau wrth gefn ar gyfer y person y gofelir amdano.