Gofal trwy Gymorth Technoleg

Technoleg yw Teleiechyd i helpu i fonitro eu hiechyd o gyfleustra eich cartref. Bydd hyn yn ychwanegu at y gofal a gynigir eisoes gan eich meddyg teulu/nyrs ac arbenigwyr.

Bydd cleifion yn cael offer, megis synwyryddion electronig, a fydd yn monitro pwysedd gwaed a darlleniadau ocsigen. Bydd y darlleniadau'n cael eu cyflwyno'n awtomatig i'w gweithiwr iechyd proffesiynol drwy AP ar eich ffôn symudol neu lechen.

Mae teleiechyd yn dechnoleg sy'n cael ei gyflwyno ar draws Hywel Dda yn ystod y misoedd nesaf. Ynghyd ag ymgynghoriadau fideo, negeseuon testun, holiaduron ac ati, bydd teleiechyd yn rhoi popeth sydd ei angen ar unigolion i reoli eu hiechyd eu hunain.

 

Gofal trwy Gymorth Technoleg

Mesur mwy,byw’n diogel

Er mwyn helpu i atal codymau a nodi risgiau eraill i chi, rydym yn defnyddio dyfais wisgadwy tele-iechyd i gasglu data pwysig sy'n gysylltiedig ag eiddilwch a'r risg o gwympo.

Un o'r dyfeisiau i'n helpu i nodi'r risgiau hyn yw oriawr syml sy'n monitro gweithgaredd yn ystod y dydd, patrwm cysgu a symudedd unigolyn i weld a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arno.

Mae dyfeisiau gwisgadwy yn dechnoleg sy'n cael ei gyflwyno ar draws Hywel Dda yn ystod y misoedd nesaf. Ynghyd ag ymgynghoriadau fideo, negeseuon testun, holiaduron ac ati, bydd teleiechyd yn rhoi popeth sydd ei angen ar unigolion i reoli eu hiechyd eu hunain.

Bydd teleiechyd yn dod yn nodwedd gyffredin o ran gofal a chymorth i’n cleifion yng ngorllewin Cymru. Bydd yn rhoi nifer o fuddion i unigolion a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, megis:

  • Y gallu i godi unrhyw faterion iechyd yn gynnar;
  • Lleihau'r angen i fynd i apwyntiadau cleifion allanol;
  • Sicrhau cyfathrebu rheolaidd â gweithwyr iechyd proffesiynol, drwy negeseuon testun ac ymgynghoriad fideo.

Mae yna ystod o wahanol offer technoleg ar gael i gefnogi anghenion penodol unigolion. Darperir offer gan y gwasanaeth monitro teleofal sef Llesiant Delta. Gallwch gysylltu â thîm Llesiant Delta 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy

0300 333 2222.

Mewn partneriaeth â

NHS
DIOGEL
DELTA
TUNSTALL
ARMED