Mae Eirlys, 82 oed, yn byw ar ei phen ei hun yn Sir Gaerfyrddin. Roedd hi'n poeni a allai barhau i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref, gan ei bod hi'n dod yn fwy bregus, bod ei symudedd yn lleihau a'i bod hi wedi cael sawl codwm. Gan nad oes ganddi lawer o gymorth teulu yn yr ardal, roedd gwybod bod cymorth ar gael yn arbennig o bwysig.
Mae Eirlys yn gwsmer Delta i Chi, gyda phecyn llinell gymorth sy'n cynnwys gwasanaeth ymateb personol ynghyd â monitro 24 awr. Pan gwympodd hi gartref, pwysodd hi ei larwm a chafodd y tîm ymateb ei anfon ar unwaith. Daeth yr ymatebwr, a chan nad oedd hi wedi'i hanafu, helpodd iddi godi o'r llawr yn ddiogel drwy ddefnyddio offer codi arbenigol. Cyn gadael, gwnaethant sicrhau ei bod hi wedi setlo a bod ganddi bopeth yr oedd ei angen arni.
Cymorth ar ôl cael codwm
Ni ddaeth y gefnogaeth i ben unwaith yr oedd Eirlys yn ôl ar ei thraed yn ddiogel. Drwy gysylltu â hi ar ôl y codwm, nodwyd ei bod hi wedi cael sawl codwm a'i bod hi wedi colli hyder wrth symud o gwmpas ei chartref. Roedd hi hefyd yn cael mwy o anhawster yn gwneud rhai gweithgareddau bob dydd ac yn mynd yn ynysig yn gymdeithasol.
Roedd cysylltu â hi ar ôl y codwm yn golygu y gellid nodi'r pryderon ehangach hyn ac y gellid rhoi cymorth priodol ar waith. Roedd hyn yn helpu Eirlys i deimlo bod rhywun yn gwrando arni a rhoddodd dawelwch meddwl iddi, gan ganolbwyntio ar yr hyn oedd fwyaf pwysig iddi: aros yn ei chartref ei hun a chynnal ei hannibyniaeth.
Cefnogi gwella gartref
Pan gafodd Eirlys ei derbyn i'r ysbyty yn dilyn salwch byr, rhoddwyd cymorth ar waith i'w helpu i ddychwelyd adref. Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau llesiant, negeseuon atgoffa am feddyginiaeth, help i baratoi prydau bwyd, monitro a chysylltu parhaus ag aelodau'r teulu a gweithwyr proffesiynol.
Wrth iddi wella, newidiodd y ffocws at feithrin ei hyder, ei symudedd a'i threfn ddyddiol. Roedd galwadau llesiant hefyd yn helpu i nodi teimladau o unigrwydd a phryder ynghylch cwympo eto, gan alluogi iddi gael ei chyfeirio at grwpiau cymunedol a chymorth llesiant.
Gwahaniaeth cadarnhaol i Eirlys
Roedd Eirlys yn gallu parhau i fyw gartref, gyda hyder gwell a sicrwydd bod help ar gael pan fydd ei angen arni. Roedd y cyfuniad o'i larwm personol, ymateb personol prydlon a'i chymorth llesiant parhaus yn helpu i leihau ei hofn o gwympo ac yn cefnogi ei hadferiad a'i hannibyniaeth.
Mae ei phrofiad hefyd yn dangos gwerth ehangach ymateb yn gynnar. Roedd yr ymateb prydlon yn helpu i osgoi taith ambiwlans ddiangen a mynd i'r adran achosion brys, ac roedd y cymorth yn dilyn y codwm wedi ei helpu i ddychwelyd adref o'r ysbyty a lleihau'r risg y byddai ei hanghenion yn gwaethygu.
Mwy na larwm
Mae stori Eirlys yn dangos sut y gall technoleg a chymorth rhagweithiol weithio gyda'i gilydd. Mae larwm personol yn darparu'r cyswllt cyntaf hanfodol, ond daw ei werth mwyaf o gysylltu rhywun â sicrwydd, cymorth ymarferol a chymorth pellach pan fo angen. Roedd y gefnogaeth a gafodd Eirlys yn mynd y tu hwnt i'r digwyddiad uniongyrchol, gan ei helpu i feithrin hyder, aros yn annibynnol a chadw mewn cysylltiad.
Rhagor o wybodaeth am Delta i Chi
P'un a ydych yn chwilio am sicrwydd i chi'ch hun neu am dawelwch meddwl i rywun rydych yn poeni amdano, gall ein tîm eich helpu i archwilio'r opsiwn sy'n gweddu orau i'ch anghenion.
Darganfyddwch sut y gall larymau personol, y gwasanaeth ymateb personol a galwadau llesiant eich helpu chi neu rywun rydych yn poeni amdano fyw'n ddiogel ac yn annibynnol.