Delta i Chi
Mae Delta i Chi yn rhoi rheolaeth i chi. Mae'n wasanaeth hyblyg sy'n ffitio o gwmpas eich bywyd, felly gallwch ddewis y gefnogaeth sy'n teimlo'n iawn i chi a chadw eich annibyniaeth
Gallwch ddewis o blith pedair lefel o gymorth – Delta yn y Cartref, Delta Unrhyw Le, Delta Sgwrsio a Delta ar ei Ffordd* – yn dibynnu ar faint o sicrwydd neu help yr hoffech chi ei gael.
Gellir teilwra pob cynllun gyda dyfeisiau ychwanegol, galwadau llesiant neu opsiynau ymateb lleol*.
Gallwch osod eich offer eich hun, neu gallwn ymweld â chi a gosod yr offer ar eich cyfer.
P'un a ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, yn gofalu am rywun annwyl, neu ond eisiau tawelwch meddwl ychwanegol, rydyn ni yma i helpu – fel y gallwch fyw bywyd eich ffordd chi, gyda chefnogaeth ar gael bob amser pan fydd ei angen arnoch.
Cipolwg ar y cynlluniau
Delta yn y Cartref
Arhoswch yn annibynnol, gan wybod bod help ar gael bob amser ar gyffyrddiad botwmPobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu ar gyfer teulu/gofalwyr sydd eisiau tawelwch meddwl neu sydd â phryderon achlysurol am ddiogelwch rhywun.
Larwm personol yn y cartref hawdd ei ddefnyddio – nid oes angen llinell ffôn, rydych chi'n ei blygio i mewn ac mae'n cysylltu'n awtomatig â'r signal 4G cryfaf neu'ch rhyngrwyd cartref
Monitro 24/7 trwy ein canolfan fonitro
Uwchgyfeirio mewn argyfwng i'ch pobl gyswllt, ein hymatebwyr* neu'r gwasanaethau brys yn ôl yr angen
Galwad gychwynnol i'ch croesawu i'r gwasanaeth a galwadau misol i weld sut mae pethau
Pwyswch eich larwm os oes angen help arnoch. Bydd ein tîm yn siarad â chi drwy'r ddyfais ac yn trefnu eich bod yn cael y cymorth cywir, p'un ai trwy gysylltu â'ch teulu, anfon help, neu ffonio'r gwasanaethau brys.
O £23 y mis
neu talwch yn flynyddol a chael 1 mis am ddim (£253)
Ynghyd a wasanaeth gosod proffesiynol am £75**
Bydd ein tîm TEC yn ymweld â'ch cartref, yn gosod eich offer, ac yn dangos i chi sut i ddefnyddio popeth yn hyderus.
Fel rhan o'r gwasanaeth, byddwn hefyd yn adolygu amgylchedd eich cartref ac yn darparu argymhellion wedi'u personoli yn seiliedig ar gyngor gan Aseswr Dibynadwy – sef gweithiwr proffesiynol cymwys sy'n arbenigo mewn dod o hyd i atebion ymarferol i wneud eich cartref yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.
Beth mae'n ei gynnwys:
Gosod eich offer yn llawn
Dangos sut i'w ddefnyddio gam wrth gam
Adolygiad o amgylchedd cartref ar gyfer diogelwch a hygyrchedd
Argymhellion ymarferol dan arweiniad arbenigedd Aseswr Dibynadwy
Edrychwch isod i ddarganfod a all ein tîm wneud gosodiadau yn eich ardal chi:
Sir Gaerfyrddin: SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34, SA35, SA38, SA39, SA40, SA44
Abertawe: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6
Castell-nedd Port Talbot: SA7, SA8, SA10, SA11, SA12, SA13
Ceredigion: SA36, SA44, SA48
Sir Benfro: SA37, SA41, SA61, SA63, SA66, SA67, SA68, SA69, SA70, SA71, SA72, SA73
Powys: SA9, SY15, SY16, SY18, SY20, SY21, LD1, LD2, LD3, LD7, LD8, HR3
Fel arall, talwch un ffi £45 i osod y gwasanaeth – byddwn yn postio eich offer gyda chyfarwyddiadau hawdd eu dilyn – ar gael ledled y DU.
Larwm gwddf ychwanegol £4.95 y mis neu £55 y flwyddyn
Os oes unrhyw gyflyrau meddygol hirdymor neu unrhyw anabledd gan y sawl sy'n defnyddio'r offer/gwasanaeth, nid ydych chi'n talu dim TAW. I wybod mwy. Darganfod mwy.
Nid yw'r prisiau uchod yn cynnwys TAW.
Gallwch uwchraddio gyda Delta Sgwrsio (+ galwadau llesiant wythnosol) neu Delta ar ei Ffordd* (rhywun yn dod draw yn gorfforol)
Delta Unrhyw Le
Arhoswch yn hyderus ac yn annibynnol, ble bynnag y bydd bywyd yn mynd â chiPobl â chyflyrau iechyd, y rheiny sydd mewn perygl o gwympo neu unrhyw un sydd eisiau aros yn egnïol a hynny gyda sicrwydd ychwanegol.
Pwysig: Efallai na fydd y cynnyrch hwn yn addas os oes gennych reoliadur calon neu ddyfais feddygol fewnblanedig arall. Gofynnwch am gyngor cyn prynu.
Larwm gwddf glyfar
Offeryn canfod codwm awtomatig
Mae'n gweithio yn unrhyw le gan ddefnyddio GPS a 4G i'n helpu i ddod o hyd i chi mewn argyfwng
Cyfathrebu llais dwyffordd â'n tîm 24/7
Uwchgyfeirio mewn argyfwng i'ch pobl gyswllt, ein hymatebwyr* neu'r gwasanaethau brys yn ôl yr angen.
Os ydych chi'n cwympo neu angen help, bydd eich dyfais yn rhoi gwybod i ni'n awtomatig neu wrth bwyso botwm. Byddwn yn siarad â chi, yn dod o hyd i chi'n gyflym, ac yn trefnu eich bod yn cael y cymorth cywir.
O £24.50 y mis
neu talwch yn flynyddol a chael 1 mis am ddim (£269.50)
Ynghyd a wasanaeth gosod proffesiynol am £75**
Bydd ein tîm TEC yn ymweld â'ch cartref, yn gosod eich offer, ac yn dangos i chi sut i ddefnyddio popeth yn hyderus.
Fel rhan o'r gwasanaeth, byddwn hefyd yn adolygu amgylchedd eich cartref ac yn darparu argymhellion wedi'u personoli yn seiliedig ar gyngor gan Aseswr Dibynadwy – sef gweithiwr proffesiynol cymwys sy'n arbenigo mewn dod o hyd i atebion ymarferol i wneud eich cartref yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.
Beth mae'n ei gynnwys:
Gosod eich offer yn llawn
Dangos sut i'w ddefnyddio gam wrth gam
Adolygiad o amgylchedd cartref ar gyfer diogelwch a hygyrcheddg un ffi £45 i osod yr offer yn ei le – byddwn yn postio eich offer gyda chyfarwyddiadau hawdd eu dilyn – ar gael ledled y DU
Argymhellion ymarferol dan arweiniad arbenigedd Aseswr Dibynadwy
Edrychwch isod i ddarganfod a all ein tîm wneud gosodiadau yn eich ardal chi:
Sir Gaerfyrddin: SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34, SA35, SA38, SA39, SA40, SA44
Abertawe: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6
Castell-nedd Port Talbot: SA7, SA8, SA10, SA11, SA12, SA13
Ceredigion: SA36, SA44, SA48
Sir Benfro: SA37, SA41, SA61, SA63, SA66, SA67, SA68, SA69, SA70, SA71, SA72, SA73
Powys: SA9, SY15, SY16, SY18, SY20, SY21, LD1, LD2, LD3, LD7, LD8, HR3
Fel arall, talwch un ffi £45 i osod y gwasanaeth – byddwn yn postio eich offer gyda chyfarwyddiadau hawdd eu dilyn – ar gael ledled y DU.
Os oes unrhyw gyflyrau meddygol hirdymor neu unrhyw anabledd gan y sawl sy'n defnyddio'r offer/gwasanaeth, nid ydych chi'n talu dim TAW. I wybod mwy. Darganfod mwy.
Nid yw'r prisiau uchod yn cynnwys TAW.
Gallwch uwchraddio gyda Delta Sgwrsio (+ galwadau llesiant wythnosol) neu Delta ar ei Ffordd* (rhywun yn dod draw yn gorfforol)
Ychwanegiadau
Delta ar ei Ffordd
Help personol pan fydd ei angen arnoch fwyaf. Yr unig wasanaeth o'i fath yng NghymruDelta Sgwrsio
Ffordd syml o gadw mewn cysylltiad, cael eich cefnogi a chael tawelwch meddwlSynwyryddion ac ychwanegiadau clyfar yn y cartref
Rydym yn darparu ac yn gosod ystod o ddyfeisiau, larymau a synwyryddion cartref ychwanegol i'w hychwanegu at eich cynllun:
- Larymau gwddf ychwanegol
- Synwyryddion Codymau
- Watshis Olrhain GPS
- Larymau mwg
- Larymau carbon monocsid
- Synwyryddion tymheredd ystafell
- Peiriannau dosbarthu moddion
- Diogell allweddi
- Synwyryddion drws
- Clociau cof
- Peiriannau galw cymorth gofal
- Synwyryddion symud
Mae'r rhain yn rhoi amddiffyniad a chyfleustra ychwanegol i chi a thawelwch meddwl i'ch teulu a'ch gofalwyr.
*Ar gael ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth ymateb personol dim ond ar gael yn Sir Gaerfyrddin a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
** Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth gosod dim ond ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Powys a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot