Polisi preifatrwydd
Llesiant Delta
Mae sicrhau bod Llesiant Delta yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cwsmeriaid.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.
Er mwyn sicrhau bod Llesiant Delta yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
- At ba ddiben rydym yn defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:
- Cynllunio, paratoi a darparu gwasanaethau er mwyn eich helpu chi i barhau'n annibynnol ac i sicrhau dewis a rheolaeth dros eich bywyd.
- Adolygu'r gwasanaethau a roddir i chi er mwyn sicrhau eu bod o'r safon uchaf posibl
- Ymchwilio i gwynion, hawliadau cyfreithiol neu ddigwyddiadau
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cyflawni swyddogaeth statudol o dan ddeddfwriaeth. Yn benodol yn unol â:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
- Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel y'i diwygiwyd
- Deddf Llywodraeth Leol 2000
Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu bod ein gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu'n llai effeithiol er mwyn helpu i ddiwallu eich anghenion.
- Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?
Mae'n bosibl y byddwn ni'n casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Manylion Banc/Talu
- Eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich anghenion tai
- Lluniau/Ffotograffau
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich hil neu darddiad ethnig
- Cred grefyddol neu athronyddol
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu'ch cyfeiriadedd rhywiol
- Collfarnau troseddol a throseddau
- A ydym yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Byrddau Iechyd Lleol
- Adrannau Cyngor Sir Caerfyrddin (e.e. Gwasanaethau Tai, y Dreth Gyngor)
- Awdurdodau Lleol Eraill
- Heddluoedd Rhanbarthol (e.e. Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru)
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Meddygfeydd
- Adran Gwaith a Phensiynau
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich anghenion tai
- Lluniau/Ffotograffau
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich hil neu darddiad ethnig
- Cred grefyddol neu athronyddol
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu'ch cyfeiriadedd rhywiol
- Collfarnau troseddol a throseddau
- Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
- Pwy sydd â mynediad i'ch gwybodaeth?
Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Byrddau Iechyd Lleol
- Adrannau Cyngor Sir Caerfyrddin (e.e. Gwasanaethau Tai, y Dreth Gyngor)
- Awdurdodau Lleol Eraill
- Heddluoedd Rhanbarthol (e.e. Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru)
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol Eraill
- Meddygfeydd
- Adran Gwaith a Phensiynau
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y cwmni yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
- Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â Chanllawiau'r Cwmni a'n Rhanddeiliaid ar gyfer Cadw Gwybodaeth.
- Gwybodaeth Ariannol; 7 mlynedd o ddyddiad y cyswllt olaf
- Gwybodaeth bersonol ar gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu; yn cael ei dileu ar ôl terfynu'r gwasanaeth ac nid yn hwyrach na 3 mis
- Recordiadau llais galwadau ffôn: 1 flwyddyn
- Data personol a gesglir ar ran Cwsmeriaid Corfforaethol; yn unol â threfniadau contract a gytunwyd.
- Eich hawliau Diogelu Data
Mae gennych yr hawl i:
- Cael mynediad i'r data personol y mae Llesiant Delta Ltd yn ei brosesu amdanoch
- Cael unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn wedi'i chywiro
- Tynnu eich caniatâd yn ôl o ran prosesu'r wybodaeth, os mai hwn yw'r unig sail i brosesu'r wybodaeth
- Cwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol yn y DU sy'n diogelu hawliau gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd gennych yr hawl i:
- Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Trosglwyddo data
- Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llesiant Delta
Uned 2, Heol Aur
Dafen,
Llanelli,
Sir Gaerfyrddin
SA14 8QN
E-bost; Info@deltawellbeing.org.uk
Ffôn: 0300 333 2222
Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ogystal â chyfarwyddyd pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.