Gweithiwr Cymorth (Achlysurol)

Rydyn ni'n chwilio am weithwyr cymorth tosturiol ac ymroddedig i ymuno â'n tîm yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
  • Lleoliad: Caerfyrddin
  • Math o Swydd: Achlysurol
  • Dyddiad cau: 04/12/2026
  • Cyflog: Cyfradd yr awr: £13.70 (Gradd D)

Rydyn ni'n chwilio am weithwyr cymorth tosturiol ac ymroddedig i ymuno â'n tîm yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Gan weithio ochr yn ochr â staff y GIG, byddwch chi'n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i gleifion a'r rhai sy'n dod i'r ysbyty gyda nhw, gan helpu i wella profiad cyffredinol cleifion a chreu amgylchedd tawel, diogel a chefnogol.

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynorthwyo pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys cludo cleifion adref, eu helpu i setlo yn ôl a'u cysylltu â gwasanaethau cymunedol sy'n gallu darparu cymorth parhaus.

Mae hon yn rôl werth chweil sy'n gofyn am empathi, sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r hyder i ddefnyddio eich menter eich hun. Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth, a byddwch chi'n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi pobl ar yr hyn a all fod yn gyfnod anodd a llawn straen yn aml.

Mae trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol.

Os ydych chi'n ofalgar, yn gyfeillgar ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Cofrestrwch ar gyfer hysbysiadau swyddi

(Dim bylchau rhwng rhifau)