Drwy gynnig amrywiaeth o gynnyrch gofal trwy gymorth technoleg, yr ydym yn ei hadolygu'n gyson ac yn ychwanegu ati, yn ogystal â mynediad i'n hymgynghorwyr llesiant arbenigol 24/7 a gwasanaeth pwrpasol wedi'i lunio i ddiwallu eich anghenion unigol, gallwch ddibynnu arnom ni i'ch helpu i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref neu pan fyddwch ar hyd lle.
Mae atebion technoleg cynnil megis larymau a wisgir ar yr arddwrn neu ddyfeisiau symudol bychain a all ffitio i mewn i'ch poced, yn gallu sicrhau, pan fyddwch yn galw am gymorth, ein bod ni neu eich enw cyswllt dewisedig yn gallu ymateb i'ch galwad yn gyflym.
Mae ein Hymgynghorwyr Llesiant Delta tra hyfforddedig, arbenigol yn gallu rhoi i chi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gael yr ateb pwrpasol gorau sy'n diwallu eich anghenion a'ch ffordd o fyw.