Ar gyfer rhywun arall

Does dim gwahaniaeth ai ffrind, aelod o'r teulu neu ofalwr sy'n poeni am lesiant rhywun ydych, gallwn roi ichi'r cymorth a'r cyngor arbenigol sydd eu hangen arnoch o bosibl i helpu diogelwch a llesiant y person rydych yn galw ar ei ran


Gellir cysylltu llawer o gynnyrch â pherson yn hytrach na chanolfan fonitro fel y gellir anfon neges at rywun sydd gerllaw. Gallwch ddewis pa opsiwn sydd fwyaf addas at eich anghenion.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni i holi am wasanaethau, byddwch yn siarad ag ymgynghorydd cymwys proffesiynol a fydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch materion sy'n ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant. Bydd ein tîm yn gofyn i chi beth sy'n bwysig i'r unigolyn yr ydych yn galw ar ei ran ac i chi. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall y sefyllfa ac i lunio pecyn pwrpasol o gyngor ymarferol a thechnoleg fydd yn diwallu eich anghenion orau. Ein nod allweddol yw helpu pobl i fyw'n annibynnol cyhyd â phosibl.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0300 333 2222