Yn ôl

Astudiaeth Achos: Gweithio gyda'r gwasanaethau brys i helpu preswylwyr i gadw'n ddiogel gartref a lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans

Yn ystod oriau mân y bore, tynnwyd sylw'r ganolfan fonitro at synhwyrydd gwely yn dangos nad oedd unrhyw symudiadau gan y cleient ers 30 munud. Anfonwyd y tîm ymateb yn syth gan gyrraedd tŷ'r cleient o fewn 15 munud a dod o hyd i'r fenyw 99 oed ar lawr ei hystafell wely ac yn methu codi.

Ar ôl cwblhau asesiad *ISTUMBLE a gwneud arsylwadau clinigol, roeddent yn gallu ei chodi'n ddiogel oddi ar y llawr. Fe wnaeth yr ymatebwyr ei helpu i ddychwelyd i'w gwely a gwneud yn siŵr bod ganddi ei hachubiaeth wrth law rhag ofn bod angen unrhyw gymorth pellach arni. Fe wnaeth y ddynes wrthod ambiwlans.

Y bore canlynol cynhaliodd y tîm ymateb alwad ffôn ddilynol ac roeddent yn pryderu bod y ddynes yn cwyno am gur a boenau, felly cafodd ei meddyg teulu wybod am y cwymp a threfnwyd ymweliad cartref. Argymhellodd y meddyg teulu i'r cleient fynychu'r ysbyty i gael archwiliad pellach i'w gwirio drosodd ar ôl y cwymp a chysylltu â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i drefnu ambiwlans.

Gan weithio'n agos gyda'i gilydd, trefnodd y gwasanaeth ambiwlans drafnidiaeth gan Llesiant Delta i fynd â'r cleient i'r adran damweiniau ac achosion brys a phan oedd hi'n barod i adael, cysylltodd yr ysbyty â Llesiant Delta i fynd â hi adref.

Bu'r tîm ymateb yn helpu'r cleient i fynd adref yn ddiogel, gan ei gwneud yn gyfforddus a sicrhau bod ei llinell gymorth wrth law, rhag ofn bod angen unrhyw gymorth pellach arni. Yn ystod y saith diwrnod canlynol, trefnwyd ymweliad lles i sicrhau ei bod yn ymdopi'n dda yn dilyn ei chodwm.

Mae *ISTUMBLE yn offeryn asesu ar ôl codwm a ddefnyddir i gynnal asesiad iechyd.