Yn ôl

Astudiaeth achos: Tîm ymateb yn helpu i leddfu'r pwysau ar Wasanaethau Ambiwlans Cymru

Y sefyllfa:

Cafodd tîm ymateb Llesiant Delta gais gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn gofyn am gymorth gyda phreswylydd hŷn a oedd wedi disgyn. Roedd y dyn yn byw gyda'i wraig a oedd yn brif ofalwr iddo, fodd bynnag, ni allai ei godi i'w draed.  Doedd gan y dyn ddim llinell gymorth ac nid oedd ambiwlansys ar gael ar y pryd. Roedd y dyn yn gorwedd ar lawr oer y gegin ac yn wynebu oedi hir yn aros am ambiwlans.

Yr ateb:

Heb unrhyw ambiwlansys ar gael, trefnodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y dylid anfon tîm ymateb Llesiant Delta i ddelio â'r dyn. Cyrhaeddodd y tîm ymateb o fewn 45 munud a chynnal protocolau *ISTUMBLE. Cwblhaodd y tîm set o arsylwadau i sicrhau nad oedd y dyn yn dioddef o
unrhyw anafiadau oherwydd y cwymp, ac yna defnyddiwyd offer codi arbenigol (cadair Raizer) i'w helpu oddi ar y llawr yn ddiogel. Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei ddiweddaru drwy gydol yr ymweliad, ac fe gafodd yr ambiwlans ei ganslo.

Y canlyniad:

Roedd y dyn yn ddiolchgar iawn bod y tîm wedi cynorthwyo, ac yn dilyn y digwyddiad, penderfynodd osod gwasanaeth cofleidiol llawn CONNECT Llesiant Delta, sy'n cynnwys llinell gymorth a mynediad 24/7 i'r tîm ymateb ar adegau o argyfwng, gan roi tawelwch meddwl iddo wrth wybod y gall bwyso'r botwm ar unrhyw adeg pe bai'n cwympo eto, a pheidio â gorfod poeni am orfod aros ar lawr am amser hir ac o bosibl cael ei gludo i'r ysbyty, lle byddai'n bell oddi wrth ei wraig.

Dywedodd Sarah, Rheolwr Ymateb:

"Mae'r gwasanaeth yn ymateb i alwadau ar gyfer argyfyngau anfeddygol, gan osgoi derbyniadau amhriodol i'r ysbyty a defnydd amhriodol o ambiwlansys, a sicrhau nad yw cleientiaid sy'n cael codwm gartref yn gorwedd ar y llawr am gyfnod hir. Mae ymchwil yn dangos y gall cwympo gael effaith negyddol ar annibyniaeth ac ansawdd bywyd, ac mae rhywun sy'n cael ei adael yn gorwedd ar y llawr am dros awr yn fwy tebygol o ddioddef anafiadau difrifol a chael ei dderbyn i'r ysbyty. Mae gallu cyrraedd y cleientiaid o fewn awr a'u codi oddi ar y llawr nid yn unig yn rhoi'r canlyniadau gorau iddyn nhw, ond gall hefyd gael effaith sylweddol o ran lleihau, ac, mewn rhai achosion, atal, yr angen am gefnogaeth a gofal parhaus."