Yn ôl

Claf y galon Rhys

Dywedodd cleifion sy'n defnyddio technoleg bod monitro eu iechyd yn dod yn rhan o'u trefn ddyddiol arferol, a byddent yn cymryd darlleniadau'n fwy rheolaidd.

Nid yw'r teulu Jones yn deulu go iawn ond mae'n seiliedig ar wybodaeth iechyd a llesiant am bobl sy'n byw yn ein cymunedau ar wahanol adegau o'u bywyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio lens y teulu i brofi a meddwl am newidiadau i'n system iechyd a gofal a'r hyn y gallent ei olygu i deuluoedd yn ein hardal nawr, ac yn y dyfodol.

Mae Rhys yn un o aelodau teulu Teulu Jones Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’n 52 oed ac mae'n byw gyda'i wraig, Sioned, ei ferch, Lianne, a'i ŵyr, Ben. Mae Rhys yn yrrwr lori hirbell ac mae I ffwrdd o'i gartref ychydig nosweithiau'r wythnos. Mae wedi ysmygu ac mae dros bwysau oherwydd cyfuniad o ddiet gwael a gweithgarwch corfforol cyfyngedig.

Cael gwybod sut mae offer teleiechyd wedi helpu Rhys…

“Ar ôl cael ofn y llynedd yn sgil problem yn ymwneud â'r galon, trefnodd y nyrsys arbenigol i mi ddefnyddio monitor pwysedd gwaed. Rwy'n teimlo'n dawel fy meddwl y bydd unrhyw newidiadau cynnil yn cael eu  datgelu a'u cefnogi cyn gynted â phosibl, gan roi  tawelwch meddwl imi.

“Mae defnyddio'r  monitor hefyd wedi fy helpu i deimlo mwy o reolaeth dros fy iechyd fy hun a thrwy alwadau  fideo, nid wyf wedi gorfod cymryd amser o'r gwaith i fynd i apwyntiadau ysbyty.