Yn ôl

Helpu ein preswylydd bregus ar noson tân gwyllt

Mae Tachwedd 5ed yn adeg o ddathlu, gyda phobl yn ymgynnull gyda theulu a ffrindiau i fwynhau tân gwyllt.
Ond nid pawb sy'n gallu mwynhau'r dathliadau, ac i rai mae'r synau uchel, goleuadau llachar a mwg yn gallu bod yn brofiad brawychus.
Mae'n bwysig ein bod yn meddwl am eraill yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig y preswylwyr hŷn a mwy agored i niwed yn ein cymunedau.
Bob blwyddyn mae'r heddlu'n lansio eu hymgyrch Op Bang i helpu i atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â noson tân gwyllt ac i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol.

Sŵn ac aflonyddwch

Effaith: Gall y synau uchel a'r goleuadau llachar o dân gwyllt achosi pryder, trallod, a tharfu ar gwsg, gan effeithio ar les cyffredinol.
Cefnogaeth: Byddwch yn ystyriol o'ch cymdogion hŷn wrth ddathlu drwy roi gwybod iddynt ymlaen llaw a chynnig cymorth i sicrhau eu cysur yn ystod y dathliadau.

Problemau resbiradol

Effaith: Gall mwg o goelcerthi waethygu problemau anadlu, yn enwedig yn yr henoed sy'n aml yn profi problemau resbiradol.
Cefnogaeth: I leihay llygress aery n ystod coelcerth, dewiswch leoliad wedi’I awyru’n dda a defnyddio tanwydd di-fwg. 

Lles emosiynol

Effaith: Gall unigolion sy’n ofni synau uchel ynysu eu hunain yn ystod dathliadau, a all arwain at deimladau o unigrwydd ac unigedd. 
Cefnogaeth: Mae’n bwysig gwirio cymdogion oedrannus cyn ac ar ôl dathliadau, gan roi sicrwydd. 

Rydym yn annog pobl i fwynhau'r dathliadau'n ddiogel ac ystyried sut y gall achosi ofn neu ofid i eraill.