Yn ôl

Podlediad: Partneriaeth ar gyfer llwyddiant ym maes iechyd a gofal

Rydym wedi ymuno â'n partner trawsnewid digidol CGI i recordio cyfres o bodlediadau ar iechyd a gofal digidol, sy'n edrych ar yr heriau heddiw a sut gall y dechnoleg ddigidol gywir oresgyn y rhain a pharatoi'r ffordd ar gyfer model gofal newydd, gan roi cleifion yn gyntaf wrth galon y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.

Yn ein trydydd podlediad, mae Arweinydd ein Rhaglen Arloesi Strategol Gareth Rees, a Chyfarwyddwr Iechyd a Gofal CGI Stuart Parsons, yn trafod sut y gall gwell cydweithio rhwng sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector - ynghyd â defnyddio technoleg - helpu i roi golwg fwy cyfannol o'r unigolyn, ac yn y pen draw, y canlyniadau gorau iddo hefyd.