Yn ôl

Podlediad: Rôl technoleg a dealltwriaeth data wrth arwain y ffordd at fodelau gofal newydd

Rydym wedi ymuno â'n partner trawsnewid digidol CGI i recordio cyfres o bodlediadau ar iechyd a gofal digidol, sy'n edrych ar yr heriau heddiw a sut gall y dechnoleg ddigidol gywir oresgyn y rhain a pharatoi'r ffordd ar gyfer model gofal newydd, gan roi cleifion yn gyntaf wrth galon y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.   

Yn yr ail bodlediad, rydym yn edrych ar bŵer dealltwriaeth data i ganiatáu i sefydliadau iechyd a gofal geisio bod yn fwy rhagweithiol ac i allu rhagweld sefyllfaoedd. Drwy rannu data yn well ac ymgorffori systemau, gall hyn helpu’r unigolyn a'r cylch gofal o'i gwmpas i gymryd mwy o ran yn gofal a ddarperir iddo, a chael gwell cefnogaeth gyda'r dewisiadau mae’n ei wneud.