Yn ôl

Llesiant Delta a CGI yn lansio llwyfan derbyn a monitro digidol arloesol ledled Cymru yn llwyddiannus

Mae Llesiant Delta, canolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg a CGI, un o'r cwmnïau gwasanaethau ymgynghori TG a busnes mwyaf yn y byd, wedi datblygu system fonitro ac ymateb ddigidol arloesol newydd. 

Mae'r llwyfan digidol newydd, sydd wedi'i lansio'n llwyddiannus ddwy flynedd cyn diffodd analog 2025, yn darparu monitro ddydd a nos trwy larymau, synwyryddion a dyfeisiau gwisgadwy i oruchwylio cyflyrau iechyd o bell, gan gefnogi pobl yn rhagweithiol i aros yn eu cartref eu hunain a chadw ansawdd bywyd uchel.

Bu CGI a Llesiant Delta yn gweithio'n agos gydag Enovation a Totalmobile i gyflwyno'r system ddigidol newydd o fewn 6 mis yn unig, gan baratoi Llesiant Delta yn effeithiol ar gyfer y broses symud i ddulliau digidol, fydd yn dod i rym erbyn diwedd 2025.

Mae'r prosiect yn gweld integreiddio systemau lluosog yn llwyddiannus, gan ddarparu llwyfan arloesol i Lesiant Delta i ganiatáu monitro cleientiaid yn fwy rhagweithiol ac ateb mwy deniadol ac effeithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth.  Yn llwyfan unigryw cyntaf o'i fath, mae'n galluogi gwasanaethau iechyd a gofal i gael eu hintegreiddio'n llawn gan ganiatáu i gleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol weithio gyda'i gilydd fel un tîm gan weld yr un wybodaeth, fydd yn galluogi broses pontio ddi-dor rhwng gwasanaethau cartref ac ysbyty.

Dywedodd Paul Faulkner, Pennaeth Technolegau Llesiant Delta: “Mae wedi bod yn brosiect heriol i'w gyflawni, ond yn un cyffrous. Mae cael y system ar waith, yn gynharach na'r disgwyl, yn dyst i'r gwaith caled y mae pawb sy'n rhan o'r prosiect, gan gynnwys staff yn Llesiant Delta a'n partneriaid CGI, Enovation, (UMO) a Totalmobile, wedi'i wneud i'r ddarpariaeth. 

“Rydym yn edrych ymlaen at wella ein gwasanaeth gyda'r swyddogaeth ychwanegol a ddaw yn sgil y platfform newydd, yn ogystal â'r technolegau a'r gwasanaethau digidol newydd y byddwn yn gallu manteisio arnynt. Mae hyn o fudd i'n holl gwsmeriaid a bydd yn helpu i wella iechyd a llesiant preswylwyr ledled gorllewin Cymru a thu hwnt.”

Mae'r platfform newydd wedi'i gynllunio'n benodol i ganiatáu i Lesiant Delta ehangu'r ystod o gynhyrchion technoleg gynorthwyol a gwasanaethau teleiechyd y maent yn eu darparu, gan drawsnewid y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu trwy ddull 'system gyfan', gan gefnogi'r ddarpariaeth barhaus o ofal o ansawdd uchel ar draws y rhanbarth. 

Dewiswyd CGI yn bartner strategol hirdymor ym mis Mawrth 2023, gan gefnogi eu gweledigaeth i helpu pobl hŷn ac agored i niwed ledled gorllewin Cymru a thu hwnt i fyw'n fwy annibynnol ac am gyfnodau hirach. Digideiddio'r gwasanaethau teleofal oedd cam cyntaf y bartneriaeth.

Dywedodd Donna Kelly, Uwch Is-lywydd De a Chanolbarth Lloegr yn CGI: “Rydym yn falch iawn o weld y llwyfan ar waith ac yn edrych ymlaen at barhau â'n gwaith gyda Llesiant Delta i ddatblygu eu cynnig ymhellach. Mae CGI wedi ymrwymo i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal digidol yn y cartref ac mae'n falch o fod yn rhan o sefydlu Cymru fel y genedl 'fraenaru' mewn gwasanaethau iechyd a gofal gwirioneddol integredig yn y cartref trwy fabwysiadu'r gallu gofal hybrid integredig newydd hwn. 

“Wrth i sefydliadau iechyd a gofal ledled y DU barhau i wynebu heriau digynsail a chyson, ni fu erioed amser gwell i gyd-gynhyrchu ac ehangu cydweithredu i ddatblygu dull 'system gyfan' o ymdrin â'r continwwm gofal.”

Ynglŷn â Llesiant Delta Wellbeing
Mae Llesiant Delta Wellbeing, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hwy. Ers ei sefydlu yn 2018, mae'r cwmni wedi ehangu ei wasanaethau ledled Cymru gan ddefnyddio technoleg arloesol i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cwmni'n gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol lleol a chenedlaethol i ddarparu gwasanaethau technoleg arloesol safonol a newydd i gefnogi cleifion sy'n gadael lleoliadau acíwt yn ogystal ag yn y gymuned. 

Ynglŷn â CGI 
Mae CGI, a sefydlwyd ym 1976, ymhlith y cwmnïau gwasanaethau ymgynghori TG a busnes annibynnol mwyaf yn y byd. Gyda 91,500 o ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol ledled y byd, mae CGI yn darparu portffolio o alluoedd o un pen i'r llall, o TG strategol ac ymgynghori busnes i integreiddio systemau, gwasanaethau TG a phroses busnes a reolir ac atebion eiddo deallusol. Mae CGI yn gweithio gyda chleientiaid trwy fodel perthynas leol wedi'i ategu gan rwydwaith cyflenwi byd-eang sy'n helpu cleientiaid i drawsnewid eu sefydliadau'n ddigidol a chyflymu canlyniadau. Y refeniw a adroddwyd gan CGI Fiscal 2022 yw $12.87 biliwn ac mae cyfranddaliadau CGI wedi'u rhestru ar y TSX (GIB.A) a'r NYSE (GIB). Dysgwch ragor drwy fynd i CGI.com