Pam gweithio i ni

Yn Llesiant Delta, ein nod yw cefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hirach gan ddefnyddio'r offer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) diweddaraf.

Trwy'r dull rhagweithiol ac ataliol hwn a chymorth digidol, mae hyn yn ein helpu i nodi unrhyw faterion iechyd a llesiant posibl mor gyflym â phosibl gan sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu i atal argyfwng.

Sefydlwyd y cwmni, a fu’n weithredol am dros 30 mlynedd fel gwasanaeth Llinell Gofal Cyngor Sir Caerfyrddin gynt, yn 2018 ac mae bellach yn gweithredu fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i'r cyngor o hyd.

Mae ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth cwbl ddwyieithog yn sicrhau bod cleientiaid yn gallu cael y cymorth a'r gefnogaeth gywir 24/7, os bydd eu hangen arnynt, gan eu galluogi i fyw'r bywyd y maent ei eisiau. Rydym hefyd yn cefnogi galwadau brys y tu allan i oriau ar gyfer sawl awdurdod lleol a chymdeithas dai.

 

Byddwch yn rhan o dîm rhyfeddol o bobl, gan wneud gwahaniaeth i fywydau ein pobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

Darganfyddwch a yw gyrfa gyda Llesiant Delta i chi trwy edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd i ddarganfod mwy o fanylion am y gwahanol rolau sydd gennym i'w cynnig ar hyn o bryd ac yna dechreuwch eich cais heddiw...

Beth yw manteision gweithio gyda ni?

  • Rydym yn cynnig gweithio hyblyg gan ein bod yn deall pwysigrwydd cael y cydbwysedd gwaith/bywyd cywir i weddu i'ch anghenion unigol
  • Rolau amser llawn a rhan-amser ar gael
  • Sifftiau ychwanegol ar gael i roi hwb i'ch cyflog
  • Swydd foddhaus gan wybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i'ch cymuned leol
  • Cyfleoedd i symud ymlaen i rolau eraill o fewn y tîm neu'r swyddi uwch, os dymunwch, gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau personol eich hun ymhellach
  • Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm gwych sy'n gweithio gyda'i gilydd yn barhaus i ddarparu'r gwasanaeth gorau

P'un a oes gennych brofiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol, gwybodaeth am ofal drwy gefnogi anwyliaid, wedi ymddeol ar hyn o bryd ond bod gennych y sgiliau cywir a allai fod o fudd i wasanaeth sy'n cefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed, neu a allai fod yn awyddus i gael profiad gwaith gwerthfawr tuag at eich astudiaethau addysgol, mae gennym gyfleoedd i ddiwallu anghenion pawb.